CYFARFOD BLYNYDDOL - Neuadd Rhydypennau, Aberystwyth - Dydd Sadwrn, Ebrill 12, 2008 am 4.30 o’r gloch. Dyddiad cau ar gyfer cynigion a materion i’w gosod ar yr agenda: Mawrth 29

Pedwar Cyngerdd Y Glerorfa
Bydd 2008 yn flwyddyn fawr i Clera ac i gerddoriaeth draddodiadol Cymru. Yn ychwanegol at ein cyfres o weithdai, bydd y Glerorfa yn gwneud pedwar perfformiad yng Nghymru ac ar y cyfandir ym misoedd yr haf, sy’n golygu fod rhaglen brysur o ymarfer a pherfformio o’u blaenau hyd at ddiwedd mis Medi.
Un o’r cyngherddau yw cyngerdd Gala agoriadol Gŵyl Geltaidd Lorient, Llydaw – yr ŵyl fwyaf o’i math yn y byd bellach. Fe fydd ail gyngerdd yn Lorient ddeuddydd yn ddiweddarach: La Grande Nuit du Pays de Galles. Bythefnos cyn y ddau gyngerdd yn Llydaw bydd yr aelodau’n ymddangos ar brif lwyfan Sesiwn Fawr, Dolgellau, ac yna, ym mis Medi, yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy fel rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Ers y cyngerdd cyntaf yn y Galeri i ddathlu degfed penblwydd Clera yn Nhachwedd 2006, mae aelodaeth y Glerorfa wedi codi i 55 a bellach yn cynnwys cerddorion o bob rhan o Gymru, pawb bron yn amaturiaid. Mae bron i draean o’r aelodau yn bobl ifanc o dan 21 oed ac mae cymaint â 10 o unedau teuluol yn cael eu cynrychioli.
Cyfarwyddwyr Artistig y Glerorfa yw Stephen Rees a Robin Huw Bowen.
Y Gweinyddwyr yw Sioned Webb ac Arfon Gwilym.
DYDDIADUR 2008
Gorffennaf 19 - Sesiwn Fawr Dolgellau
Awst 2 - Cyngerdd agoriadol Gŵyl Geltaidd Lorient
Awst 4 - Grande Nuit du Pays de Galles, Lorient
Medi 24 - Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy