Clera Heddiw

Offerynnau

Y Glerorfa

Digwyddiadau

Ymaelodi a Chofrestru

Telynor Cymru

Alawon i'w Chwarae

Gweithdai a sesiynau

Tŷ Gwerin

Siopa

Dolenni

Y Degawd Cyntaf

Archif

 

 

 


CRYTHWR OLAF YR HEN DRADDODIAD
gan Stephen Jones

Dechreuais ymddiddori yn y crwth pan weithiwn ar John Rhydderch (1675-1735), y bardd, argraffydd a llawer mwy arall. Yn un o’i erthyglau disglair ar John Rhydderch, dyfynna Bob Owen Croesor nodiad Iolo Morganwg, lle dywed Iolo, bod John Rhydderch wedi gadael rhyw eisteddfod ym Morganwg a’i gynffon yn ei afl “a’i grwth yn ei gwd”. Wrth gwrs, nid yw hi’n bosib cymryd yn llwyr bob peth a dywedir gan Iolo Morganwg yn ddifrif, ond, ar yr olwg gyntaf, mae John Rhydderch wedi chwarae y crwth.

Y mae yna nifer o adroddiadau am yr offeryn hwn ar y we, yn nodedig rhyw hysbysrwydd ar Wicipedia, tudalen ar wefan Clera, CymdeithasOfferynauTraddodiadol Cymru, a rhyw ysgrifau gan J. Marshall Bevil, academydd Americanaidd a ymchwiliodd y testun yn y saithdegau. Mae gwahaniaethau rhwng yr amryw adroddiadau,  mannau ansicrwydd a rhai bylchau.

Y mae’r pwnc llosg yw pryd, o flaen ei adfywiad diwedda, bu farw'r crwth, os o gwbl? Yn yr erthygl fechan hon, rwy’n mynd i geisio eglurhau rhai o’r ffeithiau. Fel y gwelir gyda hyn, ymddengys Sir Drefaldwyn a’i chyffiniau yn gryf yn y stori.

Y prif anhawster sy’n rhwystro pob un a ddymuna ymchwilio’r crwth, yw'r ffaith, bod y gair “crwth” wedi cael ei ddefnyddio yn Gymraeg bron heb eithriad i ddisgrifio'r feiolin. Yn wir, efallai bod y ffaith bod y gair wedi golygu nid yn unig yr offeryn traddodiadol Cymreig, ond hefyd y feiolin, wedi camarwain pobl i feddwl, bod y ddau offeryn yn debyg, ac fellywedi cyfrannu at ddiflaniad yr offeryn Cymreig.

Oblegid yr amwysedd hwn, rhaid mynd i’r afael a'r holl ffynonellau Cymreig yn ofalus iawn. Yn digon eironig am offeryn Cymreig,  cyfeiriadau at y gair yng nghofnodion Saesneg sy'n bwysig, oherwydd pan gyfeirir yn Saesneg at y “crwth”, gwyddom ni, nad yw'n cyfeirio at 'violin' sydd yn amlwg yn air hollol wahannol i enw'r offeryn Cymreig.

Beth bynnag, er mwyn ceisio ateb ein pwnc llosg ni, sef pryd, o flaen ei adfywiad diweddar ef, bu farw y crwth, gweithiaf ymlaen yn raddol o'r dechrau. Yn ôl gwefan Clera, erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif oedd yr offeryn bron wedi diflannu o’r wlad yn gyfangwbl. Mewn darlith i Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain ym 1770, dywedodd yr hynafiaethydd Daines Barrington mai un person yn unig oedd yn chwarae’r offeryn bellach drwy Gymru gyfan, sef gŵr o’r enw John Morgan o Niwbwrch, Ynys Mon, ac ar y pryd roedd hwnnw yn tynnu am ei drigain oed.

Efallai ‘roedd gan Daines Barrington yr unig chwaraewyr proffesiynnol llawn amser mewn golwg, gan fod esiamplau achlysurol ar gael, a chryn dystiolaeth iddynt, bod yr offeryn wedi cael ei chwarae hyd at ddiwedd y 19ed ganrif.

Er enghraifft, awgryma adroddiad am ffair Caerleon yn y Monmouthshire Merlin o’r 6ed o Fai 1837 bod yr offeryn mewn defnydd ymhell ar ol y diwedd y ddeunawfed ganrif:
“Fe gododd seren yr hwyr, a meddyliasant hogiau a chrotesi y gwlad droi adref, ond nid allasant rhyw ohonynt ddim wrthsefyll temtasiwn dawns, er gerdd crwth a thelyn ["to the music of crwth and telyn"], yr hon a glywydid ym mhob cyfeiriad nes i'r “Sianticlir cyhoeddi gwawr y dydd Mercher...”.

Daw yr esiampl nesaf ym mlynyddoedd 1848/9. Ymddengys ar wefan Aberdâr i ymwelwyr, www.caradog.co.uk, gan ddweud bod yr arweinydd o'r 19fed ganrif Griffith Rhys 'Caradog' Jones, , wedi chwarae'r crwth. Ar dudalen sy’n sôn am fywyd cynnar Caradog ym Mhrynaman, dywed y wefan: “Yna, fe ddysgodd Caradog y crwth, offeryn Cymreig hynafol, gyda’i frawd John yn athro iddo. Un o’r dulliau dysgu byddai John yn ei ddefnyddio oedd, gosod plât tan eu ddau fraich tra’r wrth iddo chwarae'r crwth, i ddysgu dal yr offeryn yn gywir.
Pe gollyngai plât, rhaid talu amdano!” Byddai wych petai Caradog yn canu'r crwth traddodiadol, ond mae un peth fy mhoeni i ynghylch y stori. Rwyf wedi darganfod llawer o gyfeiriadau i Garadog fel feiolinydd ond dim un, ar wahan i hwn, fel chwaraewr y crwth. Os oedd y hysbysrwydd hwn wedi ei seilio ar ffynhonnell Gymreig, gallai bod yma esiampl o'r broblem yr amlinellais i hi uchod, a’r stori ynghylch y plât yn cyfeirio at y feiolin? Hoffwn weld y ffynhonnell gwreiddiol y stori cyn ychwanegu Caradog at y restr chwaraewyr pendant y crwth y 19fed ganrif.

Gan symud ymlaen unwaith eto, mae ateb i'n pwnc llosg, yn ol Wicipedia, bu farw y crwth ym 1855. Cynhwysa eu tudalen nhw pobl Gymreig ddiddorol a fu farw yn y flwyddyn honno “Marwolaeth James Green Bron y Garth, chwaraewr olaf y crwth traddodiadol”.

Fe feddyliaf i bod y stori am James Green, yr hon a ceir rywle arall ar y we, yn tarddu o lyfr Francis Galpin 'Old English Instruments of Music' (1910); nodir ynddo ar dudalen 77 y darn canlynol:
"Y mae hi’n amlwg o fy ymchwil personol i ymhlith werin bobl gwlad Cymru bod y crwth wedi cael ei ddefnyddio o leiaf hyd at ganol y ganrif ddiweddaf. Adroddir hanes rhyw James Green, crydd, Bronygarth, yr hwn a fu farw ym 1855, tra oedd ef ar y ffordd i gynulliad lawen, bod ef wedi cwrdd â tharw ffyrnig mewn wtra gul; ceisiodd ef ddianc yr ymosodiad gan ddringo yn gyflym mewn goeden, ond cymerodd yr anifail safiad tan y goeden, yn benderfynol o beidio colli ei ŵr ef. Er y byddai James yn ddiolchgar am ei ddiogelwch, meddyliodd y crydd bychan gyda gofid am y noson lawen yr oedd ef yn mynd i'w cholli a penderfynodd yn y diwedd profi effaith ei gerddoriaeth ar y bwystfil. Gan gymryd ei grwth allan o’i gwd, fe darodd ei hoff alaw. Er ei syndod ef, fe drodd yr anifail a ffoi. “Stop! Stop!” galwodd James, ei falchder clwyfedig wedi goresgyn yn llwyr ei ofnau, “Fe newidiaf i’r alaw!” Ond ‘roedd hi yn rhy hwyr, ac am y tro cyntaf roedd cerddoriaeth y crythwr wedi methu bodloni.”

Fe amheuaf i yn iawn a yw'r stori hon yn wir;  mae'n dwyn i gof yn ddrwgdybus y stori am Evan Jones, Telynor y Waun Oer, lle mae e’n chwarae'r delyn a thawelu tarw dig. Pe fuasai y Parchedig Galpin wedi gwirio beth y ddywedodd “werin bobl gwlad Cymru” wrtho am James Green, fe fuasai wedi darganfod nad oedd y wybodaeth a dderbyniodd yn fanwl.

Cymeriad hanesyddol go iawn oedd James Green; treflan ym mhlwyf Sant Marthin ger Groesoswallt yw Bronygarth. Fe gawn ni James Green yn gofrestredig yn y cyfrifiad 1851 am Mronygarth fel crydd yn 68 mlwydd oed. Fe ganwyd ef ym mhlwyf Sant Marthin, yn Sir Amwythig. Fe ymddengys ef unwaith eto yng nghyfrifiad 1861, y tro hwn yn 77 mlwydd oed, fel “crydd a chasglwr tollau”. Gyda threigl amser, ymddangosodd ef hefyd yn y cyfrifiad 1871, pan oedd ef yn byw yn Y Parc, erbyn hynny roedd wedi cyrraedd 88 mlwydd oed. Bu farw ym Mronygarth ar y 15fed o Dachwedd 1876, yn yr oedran teg o 95 mlwydd. Rwyf wedi chwilio yn yr Oswestry Advertiser ac yn bapurau eraill Sir Amwythig i weld, a dynodd marwolaeth James Green sylw y wasg, yn arbennig o ran chwarae y crwth. Nid oedd dim golwg ohono. Nid oedd hyd yn oed dim hysbysiad ei farwolaeth ef. Yn fer, rhywun gwir oedd James Green, ond nid oedd ef yn Gymro, nid fu ef ddim farw ym 1855 a, hyd y gwyddom, nid oedd yn chwarae'r crwth! Y mae’r dystiolaeth negyddol yn braidd gref ar yr achlysur hon, oherwydd llywyddodd y chwedlonol John Askew Roberts y Bye-Gones Croesoswallt ar y pryd, a roedd ef yn union y math gŵr i daro ar unrhyw damaid blasus â chysylltiad diwylliant Cymru Fu, er enghraifft marwolaeth y chwaraewr olaf y crwth. A dyna ben ar James Green.

<>Rwyf wedi dod trwy lwc ar draws ymgeisydd mwy addawol am swydd y chwaraewr olaf y crwth pan oeddwn i yn gwrando sgwrs yn y Trallwng flwyddyn ddiweddaf. Adroddwyd hi gan y Brifathrawes Sioned Davies, ar y testun Mair Richards Darowen. Digwyddodd y Brifathrawes Davies crybwyll wrth fynd heibio, bod ym mhapurau Mair Richards cyfeiriad at rhywun fel y perfformiwr gorau ar y crwth tair-thant yng Nghymru. Ni fu Mair Richards farw tan y flwyddyn 1877, felly ‘roedd yn amlwg, bod ei stori yn werth ei ddilyn.

Ar ol archwilio papurau Mair Richards yn y Llyfrgell Genedlaethol, daeth enw'r dyn hwn i'r amlwg, sef Dafydd Ingram. Clerc plwyf Llanerfyl oedd Dafydd Ingram, ond nid oes unrhyw sôn amdano yn hanes Llanerfyl Griffith Edwards yng Nghasgliadau Maldwyn. Fel James Green, ymddengys Dafydd Ingram yn y cyfrifiad 1861, lle caiff ef ei ddisgrifio fel clerc plwyf, yn 83 mlwydd oed, a wedi cael ei eni yn Lanerfyl. Fe gladdwyd ef yn Lanerfyl ar y 16fed o Fai 1867 yn 89 oed. Does dim garreg coffa iddo. Rwy’n siwr, mae’n rhaid, bod Mair Richards yn dyst dibynadwy, felly, er gwaethaf y problemau gyda James Green, dyma rhyw dystiolaeth galed, bod yr offeryn wedi cael ei chwarae yng nghanol y 19fed ganrif. Ar ben hynny, pe bai Dafydd Ingram y chwaraewr gorau o'r offeryn, mae’n rhaid bod chwaraewyr eraill o gwmpas.

Mae’n ddiddorol nodi, medd Mair Richards yn benodol, bod Dafydd Ingram wedi chwarae crwth tair-tant. Yn wir, yr oedd dwy fersiwnynau o'r offeryn, un 6-thant ac un 3-thant. Nid oes unrhyw sôn am y fersiwn 3-thant ar lein, ond darlunir y ddau fersiwn yn llyfr Cerdd Dannau Robert Griffith (1916). Fe ymddengys o lyfr  Francis Galpin 'Old English Instruments of Music' rwy wedi sôn amdano uchod, y gallai'r offeryn 3-thant fod yn offeryn gwahanol o’r enw rebec. Nid wy'n gerddolegwr ac ni allaf wneud unrhyw sylw ar hyn, ond mae'n ymddangos bod anian cywir y crwth 3-thant yn destun diddorol i’r arbennigwyr.

Yn dod yn nes i’r dydd presennol, priododd Delia, merch y prydydd Ceiriog, ym 1883. Rhedodd yr Aberystwyth Advertizer ar y 13fed o Hydref 1883 adroddiad diddorol ar y dathliadau sydd yn dangos yn eglur bod yr offeryn wedi cael ei chwarae yn Sir Drefaldwyn ym 1883. Fe ddywed yr adroddiad, bod siediau rheilffordd y Fan wedi cael eu addurno am yr achlysur a:
“Cadwodd y llif cwrw a cherdd, ynghŷd a pleser rhesymegol a naturiol, y delyn a’r crwth Cymreig [“the Welsh harp and crwth”] mewn cywair llawn hyd doriad y dydd gyda’r hen delyn Gymreig, canu pennillion, chwarae’r crwth [“crwth playing”] ...”.

Ac yn olaf, roedd Nicholas Bennett o Lanyrafon. Bu Mr Bennett, awdur ‘Alawon Fy Ngwlad’ farw bron ar ddechreuad yr ugeinfed ganrif; claddwyd ef yn Nhrefeglwys ar y 18fed o Awst 1899. Sona ysgrif coffa Cadrawg amdano:
”Yn y hwyr, byddai ef yn cael hwyl wrth ganu alawon Cymreig ar y crwth [“Welsh airs upon the crwth”]”....

Wn i ddim, beth a digwyddodd i grwth Nicholas Bennett. Dywedodd rhywun wedi dweud i fiwrthyf lawer o flynyddoedd yn ôl, y bu ymryson mawr teuluol ar ôl ei farwolaeth, a chafodd ei dŷ ei ddymchwel, felly efallai fynd i’r offeryn hwn i ffordd pob peth daearol. Beth bynnag bo’r sefyllfa ar y pwnc hwn, mae ysgrif coffa Cadrawg yn profi bod y crwth wedi cael ei ddefnyddio yn Sir Drefaldwyn hyd at y diwedd y 19fed ganrif. Ond mae'n amlwg bod yr offeryn wedi derbyn blas hynafiaethol erbyn hynny, a cheir sôn yn nawdegau'r 19fed ganrif am ei “adfywio” ef. Cyflwynodd henadur Lerpwl, John Samuelson, esiampl o'r offeryn yn Nhrefriw ar ôl Eeisteddfod Geirionydd ym 1893, ond mae'n ymddangos na ddaeth dim ohonno. Er hynny, dywed yr erthygl sy'n crybwyll menter John Samuelson ynddo, bod y crwth nawr “bron” marw. Os oedd ef yn “bron” marw ym 1909, dyddiad yr erthygl dan sylw, nid ydoedd ef yn llwyr marw, hyn yn oed yn nechreu’r ugeinfed ganrif.

 Mae hi’n drist feddwl y cafodd y crwth traddodiadol ei chwarae o fewn côf yn yr adeg y bwriadwyd ei adfywio, a bod ei ddiflaniad ef yn rhyfeddol diweddar, pan fyddai'n bosibl i achub y traddodiad.

Un peth arall. Nae amheuaeth hefyd am nifer esiamplau hanesyddol yr offeryn sydd wedi goroesi. Sônir ar wefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru am “y tair esiampl hanesyddol sy’n dal i fodoli”, ger Sain Ffagan, y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a’r Amgueddfa ac Oriel Celf Warrington. Un ohonynt, meddyliaf yr esiampl yn Aberystwyth, sy’n tarddu o Drawscoed ger y Trallwng.

Ond mae gwefan Clera, mewn cyferbyniad, yn siarad am bedwar esiampl sydd wedi goroesi i’n dyddiau ni. "Yr hynaf yw ‘Crwth y Foelas’ o ardal Pentrefoelas, a welir heddiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Fe’i gwnaed yn Llanfihangel Bachellaeth, Gwynedd a cheir y dyddiad 1742 arno. Ceir un arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, un yn y Corporation Museum, Warrington, ac un yn yr Unol Daleithiau, yn y Museum of Fine Arts, Boston.”

Ond datgela ymchwil google cyflym esiampl arall yn yr Almaen, gyda darlun. Mae'r esiampl hwn yn perthyn i Amgueddfa y “Reiss-Engelhorn-Museen” ym Mannheim,  yn dyddio o gwarter cyntaf y 19fed ganrif. Yna, gallai y cyfanswm gwir nawr bod yn bump!

Yn fy marn personnol i, mae’n debyg bod yna mwy o esiamplau anadnabyddus o'r offeryn o gwmpas, oblegid, yn anhebyg i’r telyn, nid yw'r crwth yn offeryn mawr sy'n hawdd ei niweidio ef, . Y mae'n union y math gwrthrych a all cael ei wthio yn lloft ffermdy rhywun a’i anghofio. Ewch ati i chwilio'ch llofft i weld a oes un yn cuddio yno! Gyda llaw, a wyr unrhyw un beth digwyddodd i offeryn Dafydd Ingram?

Stephen Jones 2014

 

Saesneg >>>>

anfonwch e-bost yma
CLERA HEDDIW | Y DEGAWD CYNTAF | Y DELYN | Y CRWTH | Y FFIDIL | Y PIBGORN | Y PIBAU |
CYNGERDD Y GALERI | DOLENNI | DIGWYDDIADAU | NEWYDDION | YMAELODI A CHOFRESTRU
Safle gan Mercwri