Ffurfiwyd y Glerorfa i ddathlu degfed penblwydd Clera mewn cyngerdd yn Galeri, Caernarfon yn Nhachwedd 2006. Ers hynny mae aelodaeth y Glerorfa wedi codi i 55 a bellach yn cynnwys cerddorion o bob rhan o Gymru, pawb bron yn amaturiaid. Mae dros draean yr aelodau yn bobl ifanc o dan 21 oed ac mae cymaint â 10 o unedau teuluol yn cael eu cynrychioli.
Cyfarwyddwyr Artistig y Glerorfa yw Stephen Rees a Robin Huw Bowen, a'r gweinyddwyr yw Sioned Webb ac Arfon Gwilym. Gellir cysylltu â Sioned ac Arfon ar e-bost: arfongwilym@btinternet.com
Am fwy o wybodaeth am berfformiadau'r Glerorfa, dilynwch y dolenni isod.
Perfformiadau
Festival Interceltique Lorient (Awst 2008)
Sesiwn Fawr Dolgellau (Gorffennaf 2008)
Cyngerdd Galeri (Tachwedd 2006)