Agoriad Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, Mehefin 17, 2007 Bu’r ‘Glerorfa’ yn perfformio ar Sgwar Dolgellau fel rhan o ddathliadau agoriad y ganolfan traddodiadau gwerin newydd, gyda’r Bandarall yn cyfeilio i’r dawnsio awyr agored. Prynhawn braf a hwyliog!
Gweithdy Aberystwyth Mai 26, 2007
Cafwyd Gweithdy llwyddiannus yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Roedd camerâu Cwmni Da yno’n ffilmio a gwelwyd y rhaglen ar S4C ar Orffennaf 15.